Dyma Ellis Longworth a Catrin Vaughan - Llysgenhadon Chwaraeon yr ysgol. Cafodd y ddau eu dewis oherwydd eu gallu i ddefnyddio eu sgiliau chwaraeon i arwain ac ysbrydoli eraill i gynnal bywyd actif. Mae Ellis yn nofiwr penigamp ac mae hefyd yn mwynhau pel-droed ac athletau. Mae Catrin yn bel-droedwraig ardderchog ac hefyd yn mwynhau athletau. Bydd y ddau yn brysur yn ystod tymor yr haf yn gwneud amrywiaeth o dasgau fydd yn hybu plant i fod yn actif - gan gynnwys cefnogi'r ysgol wrth weithredu'r Daily Mile, helpu i gynnal Diwrnod Gweithgareddau Actif, rhoi cymorth i blant ateb yr Arolwg Chwaraeon 2018 ac hefyd yn cynorthwyo mewn clybiau chwaraeon allgyrsiol.
© 2021 Hawlfraint Ysgol Glan Morfa. Cedwir Pob Hawl. Gwefan gan Delwedd