Abergele

Yr Aran

imageMae dosbarth yr Aran wedi bod yn weithgar iawn dros y flwyddyn ysgol diwethaf. Rydym wedi bod yn dysgu am Oes Fictoria gan gynnwys ‘Streic Chwarel y Penrhyn’ ym Methesda. Buom yn dysgu hefyd am sut oedd bywyd plant ysgol yn yr oes hon. Yn ogystal a hyn, perfformiodd Blwyddyn 4 a 5 Sioe Nadolig Oliver, perfformiad arbennig!! Yn Nhymor yr Gwanwyn buom yn astudio ’Yr Amgylchedd’ gan ddysgu am y gylchred dwr, Masnach Deg a’r effaith mae ailgylchu yn ei gael ar yr amgylchedd.

Cawsom hefyd gyfle i gynllunio, perfformio a golygu adroddiad tywydd gan ddefnyddio techneg Sgrin Werdd. Rydym yn edrych ymlaen i ddysgu am ‘Ryfeddodau Cymru’ yn ystod y tymor hwn, gan gynnwys ymchwilo rhai o enwogion Cymru a'r Parciau Cenedlaethol.

Cysylltu

Mr Hugh Rhys-Williams
Pennaeth
Ysgol Glan Morfa
Ffordd y Morfa
Abergele
LL22 7NU

01745 832922

pennaeth@glanmorfa.conwy.sch.uk

Cyngor Conwy

Polisi Preifatrwydd

© 2021 Hawlfraint Ysgol Glan Morfa. Cedwir Pob Hawl. Gwefan gan Delwedd